Cymraeg Hawdd ei Ddeall
Gwybodaeth ddefnyddiol
Pethau defnyddiol i'w gwybod.
Gweithio gyda dehonglydd
Edrychwch ar y person Byddar wrth siarad.
Peidiwch ag edrych ar y dehonglydd.
Siaradwch ar eich cyflymder arferol.
Un person sy'n siarad ar y tro.
Cymerwch seibiannau. Mae dehongli yn waith caled.
Mae'r dehonglydd yn arwyddo popeth sy'n cael ei ddweud.
Mae'r dehonglydd yn cadw popeth yn breifat.
Nid yw'r dehonglydd yn cymryd ochr.
Pwy sy'n talu?
Gan amlaf, nid yw'r person Byddar yn talu.
Yn y gwaith, gall Mynediad at Waith dalu.
Yn y llys, y llys sy'n archebu'r dehonglydd.
Yn yr ysbyty neu gyda'r meddyg, y gwasanaeth iechyd sy'n talu.
Yn y brifysgol, gall y Lwfans Myfyrwyr Anabl dalu.
Ddim yn siŵr? Gofynnwch i ni.